SL(6)244 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 2) 2022

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (“y Prif Reoliadau) sy'n darparu ar gyfer ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr sy'n amodol ar incwm yng Nghymru a Lloegr.

Mae Rheoliad 3(2) yn gwneud darpariaeth ar gyfer gostyngiad dros dro yn y gyfradd llog ar fenthyciadau i fyfyrwyr israddedig a bennir yn rheoliad 21A o'r Prif Reoliadau; mae Rheoliad 3(3) yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â benthyciadau gradd ôl-raddedig a bennir yn Rheoliad 21B o'r Prif Reoliadau.

Pennir y gyfradd llog ar 6.3% ar gyfer y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2022 ac sy’n gorffen ar 30 Tachwedd 2022. Ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd y gyfradd llog yn dychwelyd i'r gyfradd wreiddiol a bennir yn y Prif Reoliadau.

Gweithdrefn

Negyddol Cyfansawdd

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd a Senedd y Deyrnas Unedig.

Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd. Gall Senedd y Deyrnas Unedig hefyd ddirymu'r Rheoliadau, yn unol â'r rheolau ar gyfer dirymu sy'n gymwys i Senedd y Deyrnas Unedig.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi cael eu gwneud fel offeryn cyfansawdd, felly mae’r Rheoliadau: (a) wedi cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol, a (b) wedi cael eu gosod gerbron y Senedd a Senedd y DU. O ganlyniad, gwnaed y Rheoliadau yn Saesneg yn unig.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r canlynol:

“The 2022 Regulations are composite regulations. As this instrument will be subject to UK Parliamentary scrutiny, it is not considered reasonably practicable for it to be made or laid bilingually. Therefore, the 2022 Regulations are made in English only.”

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

25 Awst 2022